Prifysgol Aberystwyth

Aberystwyth
Prif fynedfa'r Hen Goleg
Arwyddair Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth
Sefydlwyd 1872
Math Cyhoeddus
Canghellor John Thomas, Barwn Thomas Cwmgiedd
Is-ganghellor Elizabeth Treasure
Staff 5,230
Myfyrwyr 7,720 [1]
Israddedigion 6,605 [1]
Ôlraddedigion 1,115 [1]
Lleoliad Aberystwyth, Baner Cymru Cymru
Lliwiau
                     
Tadogaethau Prifysgol Cymru
AMBA
ACU
University Alliance
Universities UK
HiPACT
SEDA
HEA
Gwefan http://www.aber.ac.uk/cy/

Prifysgol ymchwil cyhoeddus yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.[2] Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli' a'r prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards. Ers hynny tyfodd nifer y myfyrwyr o 26 i dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau. Yn 2016 fe'i dynodwyd y brifysgol mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru ac ymysg y 10 saffa yn y DU (yn ôl y Complete University Guide 2016).

Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol barhau i gynhyrchu gwaith o safon uchel ac ymateb i amgylchedd sy'n newid drwy'r amser, mewn perthynas ag ymchwil a chyllido ymchwil.[3]

Ceir chwech Athrofa oddi fewn i Brifysgol Aberystwyth:[4]

  • Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Athrofa Datblygu Proffesiynol
  • Athrofa Busnes a’r Gyfraith
  • Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth & Seicoleg
  • Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol
  • Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg

a deunaw o Adrannau academaidd gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol (yr adran hynnaf o'i fath yn y byd) a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylghcheddol a Gwledig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei ymchwil.[5]

Mae modd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang iawn o feysydd bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dros 300 o gyrsiau bellach ar gael ble gellir astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.[6]

  1. 1.0 1.1 1.2  Where do HE students study?. hesa. Adalwyd ar 9 Mehefin 2021.
  2. "BBC Mid Wales News – Three universities go independent". BBC. 1 Medi 2007. Cyrchwyd 3 Medi 2007.
  3. aber.ac.uk; adalwyd 21 Tachwedd 2016.
  4. "Aberystwyth University - Why Aberystwyth?". www.aber.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 15 Chwefror 2016.
  5. https://www.aber.ac.uk/cy/university/institutes/ Archifwyd 2016-04-10 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2016
  6. https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/astudio-cyfrwng-cymraeg/ Archifwyd 2017-07-15 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21/11/16

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search